Elor
Gwedd
Stondin y gorwedd celain, arch neu gasged arni yw elor fel y gellir eu cludo i'r bedd neu er mwyn arddangos y corff yn ystod seremoni angladd neu alaru casged-agored cyn ei gladdu. [1]
Yn ôl arferion angladdol Cristnogol dodir yr elor yng nghorff (nave) yr eglwys gyda chanhwyllau o'i phobtu, ac fe erys yno yn ystod yr angladd.
Yn draddodiadol, ffrâm wastad o bren , ond weithiau o ddeunyddiau eraill, yw'r elor. Gynt, roedd yr elor yn aml yn ford o bren y dodid y meirw arni gydag amdo amdanynt. Bellach, anaml y dygir y corff ar elor heb ei roi mewn arch neu gasged yn gyntaf, er nad yw'n anghyffredin cadw'r arch ar ei hagor.
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, http://www.geiriadur.ac.uk/: elor