Absinth
Gwedd
Diod feddwol ddistylledig gyda chyfran uchel o alcohol yw absinth. Caiff ei flas yn bennaf o anis, ond ei gynhwysyn mwyaf adnabyddus yw'r wermod lwyd, a rydd liw gwyrdd iddi. Ynghyd â'r cynhwysion rhag-grybwylledig, mae'n cynnwys hefyd ffenigl a pherlysiau eraill. Fe'i adnabyddir yn llenyddiaeth hanesyddol fel "la fée verte" ('y dylwythen deg werdd').