Neidio i'r cynnwys

Braciopod

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 07:12, 2 Mai 2016 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Braciopod
Brachiopoda
Amrediad amseryddol: Cambriaidd–Presennol
Lingula anatina o Ynys Stradbroke, Awstralia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Uwchffylwm: Lophotrochozoa
Ffylwm: Brachiopoda[1]

Ffylwm o rywogaethau morol yw'r brachiopod neu'r braciopod (Lladin: Brachiopoda), gyda chregyn caled. Mae gan y gragen golfach er mwyn iddi agor a chau, a hwnnw wedi'i leoli yng nghefn yr anifail gyda'r tu blaen yn agor er mwyn bwyta, a chau er mwyn iddi amddiffyn ei hun.

Ceir dau brif grŵp: cymalog ac anghymalog. Mae gan y grŵp cyntaf golfach danneddog a chyhyr syml i agor a chau'r gragen. Colfach di-ddant sydd gan y braciopod anghymalog, a system gymhleth i gadw dwy ran y gragen yn y lle cywir. Mae gan y rhan fwyaf o fraciopodau fonyn sy'n ymwthio o agoriad yn un o'i falfiau, a elwir yn 'bedicel cloriog' (pedicle valve). Pwrpas hwn yw angori'r anifail i wely'r môr, ond ychydig yn uwch na'r tywod a'r mwd a fyddai'n mygu'r agoriad.

Geirdarddiad

Daw'r gair "braciopod" o'r Hen Roeg: βραχίων ("braich") a πούς ("troed").[2][3] Mae'r gair 'braich' yn y Gymraeg yn cynnwys y sain 'ch', ac felly, gellir defnyddio'r cyfenw (a'r ynganiad) 'brachiopod' yn Gymraeg.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau