Neidio i'r cynnwys

Bryste

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:36, 12 Mehefin 2019 gan Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
Bryste
Dinas Bryste (sir, dinas ac awdurdod unedol)
Lleoliad Bryste
Sir seremonïol Bryste
Sir hanesyddol Sir Gaerloyw (a rhan yng Ngwlad yr Haf)
Daearyddiaeth
Arwynebedd 343.4 km2 km²
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) 380,615
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 398,300
Gwleidyddiaeth
Aelod seneddol Roger Berry
Kerry McCarthy
Doug Naysmith
Dawn Primarolo
Stephen Williams

Dinas a swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Bryste (Saesneg: Bristol); y sillafiad yng ngherddi'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yw Brysto[1]. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor yn Gymraeg yn y 18fed a'r 19g. Mae'n agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren ac fe'i lleolir 71 km i'r dwyrain o Gaerdydd. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, gydag Afon Avon yn eu gwahanu.

Geirdarddiad

Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad.

Hanes

Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Yn y 18g roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.

Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Mae Bryste'n unigryw gan fod ganddo statws sirol ers y canoloesoedd. Yn 1835 ehangwyd y ffiniau er mwyn cynnwys treflanau megis Clifton ac roedd yn fwrdeisdref sirol ym 1889 pan ddefnyddiwyd y term hwn am y tro cyntaf.[2] [3] Ar 1 Ebrill 1996, adenillodd ei statws fel sir (neu "swydd") pan ddiddymwyd yr enw "Swydd Avon" a daeth yn swydd unedol.[4]

Rhennir y swydd yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan:

Adeiladau a chofadeiladau

  • Castell Bryste
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys y Teml
  • Neuadd Colston
  • Theatr Old Vic
  • Tŵr Colston

Enwogion

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Gwefan gutorglyn.net; adalwyd 22 Mawrth 2018.
  2. Rayfield, Jack (1985). Somerset & Avon. London: Cadogan. ISBN 0-947754-09-1.
  3. "LOCAL GOVERNMENT BILL (Hansard, 16 November 1971)". hansard.millbanksystems.com. Cyrchwyd 7 Mawrth 2009.
  4. "The Avon (Structural Change) Order 1995". www.opsi.gov.uk. Cyrchwyd 27 Ionawr 2013.