Neidio i'r cynnwys

Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:37, 30 Mehefin 2024 gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau)
Swydd Dumfries
MathEtholaeth Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Poblogaeth87,700 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 Mai 2005 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway, Gororau'r Alban, De Swydd Lanark Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd4,292.79 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.2°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS14000014, S14000074 Edit this on Wikidata
Map
Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Aelod SeneddolDavid Mundell Ceidwadwyr
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale yn etholaeth Sirol yn Ne'r Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark. Ers 2015 dyma'r unig sedd a gynrychiolir drwy'r Alban gyfan gan y Ceidwadwyr.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, 2005 gan David Mundell, Ceidwadwyr yr Alban. Mae'r etholaeth yn y de yn ffinio gyda Lloegr, ac adlewyrchir hyn yn y bleidlais Doriaidd a gafwyd yn 2015. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019 hefyd.

Yn draddodiadol, mae'r Ceidwadwyr wedi rheoli hen etholaeth Swydd Dumfries, Llafur wedi rheoli Clydesdale a'r Rhyddfrydwyr wedi bod yn amlwg yn Tweeddale ers y 1980au. Mae'n etholaeth amrywiol a gwahanol i etholaethau eraill yr Alban.

Cyfeiriadau