Neidio i'r cynnwys

The Vamps

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:07, 18 Tachwedd 2018 gan AwelMor (sgwrs | cyfraniadau)
The Vamps Wake Up World Tour London 2016

Band pop roc yw The Vamps, a'r aelodau yw Bradley Simpson, James McVey, Connor Ball, ac Tristan Evans. Enillodd y band enwogrwydd ar ddiwedd 2012 gyda caneuon a uwchlwythwyd ganddynt i YouTube. Cafodd y band ei arwyddo i Mercury Records yn 2012, gan gefnogi McFly ar eu Taith Memory Lane, ar ddechrau 2013, a perfformion nhw o gwmpas y Deyrnas Unedig yn cefnogi gwahanol artistiaid fel Taylor Swift, Selina Gomez, Little Mix ac eraill. Erbyn hyn maent wedi rhyddhau tri albwm.

Hanes

2011-2012: Ffurfio'r Band

Roedd James McVey yn barod yn cael eu reoli gan Richard Rashman ac Joe O'Neill o Prestige Management cyn penderfynu ffurfio band. Mi wnaeth James darganfod Bradley Simpson yn 2011 trwy YouTube. Gyda'i gilydd, ysgrifennodd y pâr ganeuon tuag at fisoedd diweddarach 2011, gyda Bradley Simpson wedyn yn dod yn brif ganwr. Yn 2012 wnaeth Bradley ac James cyfarfod Tristan Evans trwy Facebook. wnaeth y tri ohonynt wedyn cyfarfod Connor Ball trwy ffrind. Yng nghanol 2012, dechreuodd y band lwytho caneuon i YouTube. Erbyn mis Hydref cawsant eu disgrifio fel band bachgen newydd, gyda sylw arbennig i'w perfformiad YouTube o gân One Direction.