Neidio i'r cynnwys

Rebecca Evans (soprano)

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 04:27, 8 Tachwedd 2014 gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau)

Soprano a anwyd ym Mhontrhydyfen, Cwm Afan, Castell-nedd Port Talbot yw Rebecca Evans (ganwyd Awst 1963).

Astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain. Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Opera Genedlaethol Cymru, Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden, a'r Bayerische Staatsoper, Munich.

Mae wedi sefydlu gyrfa opera gadarn yn yr Unol Daleithiau, lle mae wedi canu rhan Susanna (Le Nozze di Figaro) i Santa Fe Opera, Adele (Die Fledermaus) i Opera Lyric Chicago; Zerlina (Don Giovanni), Ann Trulove (The Rake’s Progress) a Adina (L'elisir d'amore) i Opera San Francisco; a Susanna a Zerlina i Dŷ Opera'r Metropolitan, Efrog Newydd.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.