Neidio i'r cynnwys

Abercwmboi

Oddi ar Wicipedia
Abercwmboi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6897°N 3.4125°W Edit this on Wikidata
Cod OSST025999 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map

Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Abercwmboi.[1][2] Fe'i lleolir yng nghymuned De Aberaman. Saif ar ffordd y B4275, i'r de-ddwyrain o dref Aberdâr, ac ar lan Afon Cynon.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Anaml ceir cyfuno aber a cwm mewn enw lle. Yn ôl Gwynedd O. Pierce, mae'n debyg taw nant o'r enw Confoe yw ail elfen yr enw a throdd dros amser yn "cwmboi", gyda'r acen ar y sillaf olaf. Mae'n bosib hefyd nad yw'r elfen "aber" yn cyfeirio at y man lle rhed y nant i Afon Cynon, ond yn hytrach mewn ystyr ffrwd neu nant yn syml. Mae'r ystyr hon o "aber" mewn enwau lleoedd yn gyffredin yn y gogledd, ond mae'n bosib taw Abercwmboi yw un o'r ychydig o enghreifftiau yn y de.[5]

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 17 Mehefin 2024
  2. British Place Names; adalwyd 17 Mehefin 2024
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen, Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t.7