Neidio i'r cynnwys

Carreg Portland

Oddi ar Wicipedia
Carreg Portland mewn chwarel ar Ynys Portland, Dorset

Mae carreg Portland yn galchfaen o'r cyfnod Jurasig sy'n cael ei gloddio ar Ynys Portland, Dorset, De-orllewin Lloegr.

Mae'r chwareli wedi'u cyfansoddi o welyau o galchfaen llwyd-wyn wedi'u gwahanu gan welyau o gornfaen.

Mae'r garreg yn cael ei hystyried yn un o gerrig adeiladu gorau Ynysoedd Prydain, ac mae'r adeiladau sydd wedi'u gwneud â hi yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o'r adeiladau nodedig sydd wedi'u hadeiladu a charreg Portland

Adeiladau eraill a wnaed â charreg Portland

[golygu | golygu cod]