Neidio i'r cynnwys

DreamWorks Pictures

Oddi ar Wicipedia
DreamWorks Pictures
Math
cwmni cynhyrchu ffilmiau
Diwydiantcreu ffilmiau
Sefydlwyd12 Hydref 1994
SefydlyddSteven Spielberg, David Geffen
PencadlysUniversal City
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchmeddalwedd
Nifer a gyflogir
80 (2012)
Lle ffurfioUniversal City
Gwefanhttps://www.dreamworks.com/ Edit this on Wikidata

Cwmni dosbarthu ffilmiau Americanaidd yw DreamWorks Pictures, sy'n eiddo i Amblin Partners. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar 12 Hydref 1994 fel stiwdio ffilm actio gan Steven Spielberg, Jeffrey Katzenberg, a David Geffen. Dosbarthodd y stiwdio ei ffilmiau ei hun a a rhai a gynhyrchwyd gan eraill.

Yn 2005 cytunodd y sylfaenwyr i werthu'r stiwdio i Viacom, sy'n rhiant i Paramount Pictures. Cwblhawyd y gwerthiant ym mis Chwefror 2006 ("DW Studios" yw enw'r fersiwn hon bellach). Yn 2008, cyhoeddodd DreamWorks ei fwriad i ddod â’i bartneriaeth â Paramount i ben a gwnaeth gytundeb i gynhyrchu ffilmiau gyda Grŵp Reliance Anil Dhirubhai Ambani India, a chafodd DreamWorks Pictures ei ail-greu fel endid annibynnol. Y flwyddyn ganlynol, ymrwymodd DreamWorks i gytundeb dosbarthu gyda Walt Disney Studios Motion Pictures, lle byddai Disney yn dosbarthu ffilmiau DreamWorks trwy Touchstone Pictures; parhaodd y drefn tan 2016. Ers 2016, mae Universal Pictures wedi dosbarthu a marchnata'r ffilmiau a gynhyrchir gan DreamWorks Pictures. Ar hyn o bryd, lleolir swyddfedd DreamWorks yn Universal Studios Hollywood.

Mae DreamWorks Pictures yn wahanol i DreamWorks Animation, ei hen adran animeiddio a gafodd ei ddeillio yn 2004 ac a ddaeth yn is-gwmni i NBCUniversal yn 2016. Mae cwmni Spielberg yn parhau i ddefnyddio nodau masnach gwreiddiol DreamWorks dan drwydded gan DreamWorks Animation.

Eginyn erthygl sydd uchod am sinema'r Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.