Neidio i'r cynnwys

Mynegiad (mathemateg)

Oddi ar Wicipedia

Mynegiad mathemategol yw'r cyfuniad cyfyngedig o symbolau a ffurfiwyd yn dda yn ôl rheolau sy'n dibynnu ar y cyd-destun. Gall symbolau mathemategol ddynodi rhifau (cysonion), newidynnau, gweithrediadau, ffwythiannau, cromfachau, atalnodi, a grwpio i benderfynu ar drefn gweithrediadau - ac agweddau eraill o gystrawen rhesymegol. 'Mynegiad' yw'r weithredu o leisio neu ddweud barn neu ddefnydd unigolyn o iaith, er mwyn trosglwyddo gwybodaeth o ryw fath.

Enghraifft

Gall mynegiannau amrywio'n fawr, o'r syml:

  (polynomial llinol)
  (polynomial cwadratig)
  (ffracsiwn rhesymol)

i'r cymhleth:

Mae'n angenrheidiol fod cystrawen y mynegiad yn cael ei ffurfio'n dda: rhaid i'r gweithredwyr (operators) a ganiateir gael y nifer cywir o fewnbynnau yn y mannau cywir, rhaid i'r nodau sy'n ffurfio'r mewnbynnau hyn fod yn ddilys, bod y gweithrediadau mewn trefn, ac ati. Nid yw rhaffu symbolau sy'n torri rheolau cystrawen yn fynegiant dilys.

Er enghraifft, yn nhrefn arferol mynegiannau rhifyddeg, mae 1 + 2 × 3 yn fynegiad sydd wedi'i ffurfio'n dda, ond nid yw:

.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]