Neidio i'r cynnwys

Wiltshire (awdurdod unedol)

Oddi ar Wicipedia
Wiltshire
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
Poblogaeth498,064 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWiltshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd3,255.3381 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3164°N 2.21°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000054 Edit this on Wikidata
GB-WIL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Wiltshire Council Edit this on Wikidata
Map

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Wiltshire, De-orllewin Lloegr, yw Wiltshire.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 3,255 km², gyda 500,024 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Bwrdeistref Swindon i'r gogledd-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerloyw i'r gogledd-orllewin a'r gogledd, rhan fach o Swydd Rydychen i'r gogledd-ddwyrain, Berkshire i'r dwyrain, Hampshire i'r dwyrain a'r de, Dorset i'r de, a Gwlad yr Haf i'r gorllewin.

Awdurdod unedol Wiltshire yn sir seremonïol Wiltshire

Ffurfiwyd yr awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2009, pan ddiddymwyd yr hen sir an-fetropolitan Wiltshire. Fe'i crëwyd trwy uno pedair ardal an-fetropolitan yn y sir honno, sef ardaloedd Caersallog, Gogledd Wiltshire, Gorllewin Wiltshire a Kennet. (Roedd hen ardal an-fetropolitan Thamesdown wedi dod yn awdurdod unedol ar wahân ym 1997, ac wedi cael ei ailenwi'n Fwrdeistref Swindon.)

Rhennir y awdurdod yn 259 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei bencadlys yn nhref Trowbridge. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys dinas Caersallog a'r threfi canlynol:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 5 Tachwedd 2020