Ursa Minor (Lladin: Arth Fach) neu'r Arth Fach yw cytser yn awyr y nos sydd yn cynnwys pegwn wybrennol y gogledd a Seren y Gogledd, Polaris.[1][2]

Ursa Minor
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Label brodorolMała Niedźwiedzica Edit this on Wikidata
Rhan oNorthern celestial hemisphere Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSeren y Gogledd Edit this on Wikidata
Enw brodorolLittle Bear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Ursa Minor, neu'r Arth Fach, yn awyr y nos

Cytser eithaf bach ydy Ursa Minor. Mae'r sêr sydd yn weladwy i'r llygaid noeth yn amlinellu siâp tebyg i'r Aradr yn Ursa Major, ond llawer llai mewn maint. Felly rhoddwyd yr enw Yr Arth Fach, neu Ursa Minor yn Lladin, i'r cytser. UMi ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.

Fel y cytser sydd yn cynnwys y pegwn gogleddol, mae Ursa Minor yn weladwy o bron holl o hemisffer gogleddol y byd, ond anweladwy o hemisffer y de. Mae Ursa Minor yn ambegynol o'r rhan fwyaf o hemisffer gogleddol y byd: mae hyn yn golygu bod y cytser yn wastad uwchben y gorwel a byth yn machlud.

Polaris, o faintioli 2.0, ydy'r seren disgleiriaf yn y cytser, a felly adnabyddir y seren fel Alpha Ursae Minoris (α UMi) ar gyfundrefn enwi sêr yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Yr unig sêr eraill yn y cytser sydd yn hawdd i'w gweld gyda'r llygad noeth ydy Kochab, neu Beta Ursae Minoris (β UMi), o faintioli 2.1, a Gamma (γ UMi) o faintioli 3.1.[3]

Y sêr disgleiriaf yn y cytser ydy[3]:

Enw Bayer Enw
traddodiadol
Mantioli
ymddangosol

(gweladwy)
Math
sbectrol
Alpha Ursae Minoris (α UMi) Polaris, Seren y Gogledd 1.98 (newidiol) F8 Ib
Beta Ursae Minoris (β UMi) Kochab 2.06 K4 III
Gamma Ursae Minoris (γ UMi) Pherkad 3.08 A3 II

Does dim nifylau, clysterau sêr na galaethau disglair yn y cytser.[3] Fel pob rhan arall o'r wybren, mae nifer fawr iawn o alaethau pell yn y cytser, ond mae rhaid defnyddio telesgop sylweddol i'w arsyllu.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. Tud. 50–53.
  2. Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. Tud. 153–154 a 163.
  3. 3.0 3.1 3.2 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23673-0. Tud. 2006–2026. (Yn Saesneg.)
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.