Castell Dolbadarn

castell yng Ngwynedd

Saif Castell Dolbadarn ar fryn creigiog gerllaw Llyn Padarn, bron rhwng y llyn yma a Llyn Peris, yn agos i bentref Llanberis yng Ngwynedd. Dolbadarn oedd prif amddiffynfa Tywysogion Gwynedd yng nghantref Arfon.

Castell Dolbadarn
Mathcastell, cestyll y Tywysogion Cymreig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1220 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanberis Edit this on Wikidata
SirLlanberis Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr136.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.116578°N 4.114197°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddllechfaen Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwCN066 Edit this on Wikidata
Cynllun pensaernïol gan CADW o'r castell.
A – Tŵr y De; B – Gorthwr; C – Tŵr y Gorllewin; D – Y rhan ddwyreiniol; E – Y Neuadd
Castell Dolbadarn

Adeiladwyd y castell gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) i amddiffyn y ffordd trwy Nant Peris o'r arfordir gogleddol i galon Eryri. Credir fod caer wedi bod yno o'r chweched ganrif, ond mae'r rhannau hynaf o'r adeiladau presennol yn dyddio o gyfnod Llywelyn.

Dywedir fod Llywelyn ap Gruffudd wedi defnyddio castell Dolbadarn i garcharu ei frawd Owain ap Gruffudd yn yr 1250au. Treuliodd Owain tuag 20 mlynedd yn garcharor yno. Yn ddiweddarach, yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Edward I o Loegr yr oedd Dolbadarn yng ngofal brawd arall Llywelyn, Dafydd ap Gruffudd. Wedi lladd Llywelyn yng Ngilmeri ar 11 Rhagfyr 1282, cipiwyd castell Dolbadarn gan fyddin Iarll Penfro. Ffodd Dafydd i'r mynyddoedd, ond ychydig fisoedd wedyn daliwyd ef a'i ddienyddio drwy grogi, diberfeddu a chwarteru, yn yr Amwythig. Defnyddiwyd gwaith coed y castell gan Edward i adeiladu Castell Caernarfon. Credir i'r castell gael ei ddefnyddio i gadw carcharorion yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn nechrau'r 15g.

Pensaernïaeth

golygu

Nodwedd amlycaf Castell Dolbadarn yw'r tŵr canolog crwn, sef y gorthwr, oedd ar un adeg yn cynnwys tri llawr ac sy'n dal i fod tua 48 troedfedd o uchder, gyda muriau 8 troedfedd o drwch. Nid oes dim yn weddill o'r lloriau mewnol, ond gellir dringo'r grisiau cerrig tu mewn i fur y tŵr. Nid oes cymaint yn weddill o'r adeiladau eraill oedd o gwmpas y tŵr yma, ond gellir gweld seiliau muriau allanol gyda thyrau a neuadd.[1]

Mynediad

golygu

Mae Castell Dolbadarn yn awr yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir ei gyrraedd o Lanberis.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (HMSo, 1983).