Dydd Gŵyl Dewi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
amserau |
Poster Wrecsam |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:StDavidsDay.jpg|Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mae Caerdydd, 2008 |
[[Delwedd:StDavidsDay.jpg|Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mae Caerdydd, 2008|bawd|300px|Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mae Caerdydd, 2008]] |
||
'''Dydd Gŵyl Dewi Sant''' ar [[1 Mawrth]] yw'r diwrnod y dethlir [[Dewi Sant]], [[nawddsant]] [[Cymru]]. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn [[Eisteddfod|eisteddfodau ysgol]]—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo [[cenhinen bedr]] (a welir fel arwyddlun Cymreig) neu [[cenhinen|genhinen]] (arwyddlun Dewi Sant) ar y diwrnod. Cynhelir nifer o [[Noson Lawen|Nosweithiau Llawen]] a chyngerddau. Hefyd y mae nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch. |

Llinell 13: | Llinell 14: | ||
==Gorymdeithiau Gŵyl Ddewi== |
==Gorymdeithiau Gŵyl Ddewi== |
||
[[Delwedd:Wrecsam.PNG|bawd|300px|Poster o Orymdaith Wrecsam i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.]] |
|||
Yn y 2010au cynyddodd y nifer o orymdeithiau; mae'n ymddangos mai Caerdydd, Aberystwyth a Wrecsam oedd y cyntaf gyda'r ardaloedd canlynol yn dilyn: |
Yn y 2010au cynyddodd y nifer o orymdeithiau; mae'n ymddangos mai Caerdydd, Aberystwyth a Wrecsam oedd y cyntaf gyda'r ardaloedd canlynol yn dilyn: |
||
;Y Sadwrn cyn yr Ŵyl |
;Y Sadwrn cyn yr Ŵyl |
Fersiwn yn ôl 12:34, 1 Mawrth 2017
Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth yw'r diwrnod y dethlir Dewi Sant, nawddsant Cymru. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo cenhinen bedr (a welir fel arwyddlun Cymreig) neu genhinen (arwyddlun Dewi Sant) ar y diwrnod. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau. Hefyd y mae nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch.
Mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn ŵyl genedlaethol ers canrifoedd ; yn ôl y traddodiad bu farw Dewi Sant ar y cyntaf o Fawrth 589 OC.. Gwnaed y dyddiad yn ddydd cenedlaethol (answyddogol) Cymru yn y 18g.
Cynhelir gorymdaith flynyddol yng Nghaerdydd i ddathlu'r ŵyl. Yn 2006 yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' ei oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau.
Cododd problem yn 2006 o ran agwedd grefyddol yr ŵyl, gan fod y cyntaf o Fawrth yn disgyn ar Ddydd Mercher Lludw, sy'n cael ei ystyried yn ddiwrnod anaddas i ddathlu. O ganlyniad, dathlwyd y diwrnod ar 28 Chwefror gan y Catholigion ac ar 2 Mawrth gan yr Eglwys yng Nghymru.
Mae ymgyrch ar droed i gael Dydd Gŵyl Dewi yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 yr oedd 87% o bobl Cymru yn cefnogi hyn, gyda 65% yn barod i aberthu gŵyl banc arall yn ei le.
Gorymdeithiau Gŵyl Ddewi
Yn y 2010au cynyddodd y nifer o orymdeithiau; mae'n ymddangos mai Caerdydd, Aberystwyth a Wrecsam oedd y cyntaf gyda'r ardaloedd canlynol yn dilyn:
- Y Sadwrn cyn yr Ŵyl
- 1af o Fawrth
- Y Sadwrn wedi'r Ŵyl
- Aberystwyth, cynhaliwyd y cyntaf yn 2013 gan gerdded o Gloc y Dref i sgwâr Llys y Brenin. Yn ôl y trefnydd, Siôn Jobbins, cynhelir y digwyddiad i "ddathlu Dewi, y Gymraeg a'n traddodiadau unigryw". Ysbrydolwyd y Parêd gan orymdaith Caerdydd.
- Abertawe tua 15.00 yp
- Bangor (ers 2016) 12.45 yp
- Sul wedi'r Ŵyl
- Bethesda (Dyffryn Ogwen)
- Wythnos
- Llandeilo, cynhelir wythnos o weithgareddau yn yr ardal i ddathlu'r ŵyl (2017), ond nid oedd gorymdaith.[3]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ urdd.cymru; adalwyd 9 Chwefror 2017.
- ↑ Gwefan Cyngor Sir Wrecsam. Adalwyd 25 Chwefror 2017.
- ↑ llandeilo.gov.uk; adalwyd 9 Chwefror 2017.